Oedfa o Werthfawrogiad

Tristwch i Eglwysi Bethania Talog, Noddfa Foelcwan a’r Tabernacl Caerfyrddin oedd penderfyniad eu Gweinidog y Parchg Peter Cutts i ymddeol ar ddiwedd mis Gorffennaf. Ar brynhawn dydd Sul, Gorffennaf 14eg yn y Tabernacl cynhaliwyd oedfa undebol o werthfawrogiad am ei weinidogaeth yn yr ofalaeth ers 2011. Llywyddwyd yr oedfa gan y cyn-weinidog  Y Parchg Desmond Davies.  Darllenwyd gan Y Parchg Wynn Vittle ac offrymwyd gweddi gan Y Parchg Desmond Davies. Cyflwynwyd darlleniad gan ieuenctid yr ysgol Sul, Heledd, Phoebe, Gwenan a Siwan.

Cafwyd cyfarchion gan y llywydd. Roedd nifer wedi teithio o Salem, Tonteg sef yr eglwys y bu’r Parchg Peter Cutts yn gweinidogaethu arni cyn dod i Gaerfyrddin a chafwyd cyfarchion ar ran Salem Tonteg  gan Andrew Parker. Cafwyd cyfarchion ar ran y cwrdd gweddi gan Margaret Walters a darllenwyd cyfarchion oddi wrth y dosbarth gwau gan y llywydd. Cyflwynwyd cyfarchion hefyd ar ran Y Parchg Judith Morris, Ysgrifennydd Cyffredinol Undeb y Bedyddwyr.  Cyflwynwyd rhodd ar ran  Noddfa gan Iori Jones;  ar ran Bethania gan Lon Griffiths; ar ran y Tabernacl gan Emyr James ac ar ran  Cymdeithas y Tair Eglwys gan Delyth Williams. Cafwyd deuawd  hyfryd “Un fendith dyro i’m” gan Julie Thorpe a Mair Evans  a darllennodd Julie Thorpe gywydd arbennig “Diolch am Gael Deuawd Peter a Lynn” o waith y Prifardd Mererid Hopwood. Cyflwynwyd tusw o flodau i Lynn Cutts gan Heledd James. Cafwyd ymateb y Parchg Peter Cutts ac ef a draddododd y fendith. Yr organyddes oedd Enid Davies a gwnaed y cyfieithu gan Tudur Jones. Gwahoddwyd pawb i’r te yn y Festri a oedd wedi ei baratoi gan Gegin Fach y Wlad. Cafwyd cyfarchion yn y Festri gan y Parchg Beti Wyn James ar ran Eglwysi’r dref; Geraint Puw ar ran Cymanfa Caerfyrddin a Cheredigion  ac Iris Owen ar ran Amnest Rhyngwladol a Chymdeithas y Cymod. Dymunir pob dymuniad da ac adferiad iechyd i’r Parchg Peter Cutts ar ei ymddeoliad a phob hapusrwydd iddo ef a’i briod Lynn ar symud yn ôl i fyw yn Sir Fôn.

Sul Sbesial 2019

Daeth tyrfa luosog ynghyd i’r Sul Sbesial a gynhaliwyd fore Sul 14eg o Orffennaf yng Nghanolfan y Dywysoges Gwenllian, Cydweli. Estyn Llaw oedd thema’r oedfa, gyda’r casgliad yn mynd tuag at Banciau Bwyd Sir Gâr a Banc Bwyd Gorseinon.

Roedd yr emynau, y cyflwyniad gan grŵp Agor y Llyfr Rhydaman, a’r neges gan Mike Adams yn pwysleisio ein dyletswydd fel Cristnogion i estyn llaw i eraill. Dangoswyd fideo o waith y Banciau Bwyd o dan nawdd y Trussel Trust. Hyfryd oedd cael cymdeithasu gyda’n gilydd wedi’r oedfa a mwynha paned, ac edrychwn ymlaen i’r Sul Sbesial nesaf!

Oedfa Fedydd

Ar nos Iau, Gorffennaf 4ydd cynhaliwyd oedfa fedydd yn y Tabernacl. Yr oedd yn llawenydd i weld pump o ieuenctid yr ofalaeth yn datgan eu dymuniad i dderbyn bedydd trochiad gan y Parchg Peter Cutts ym medyddfa’r Tabernacl; Robert a Matthew o Fethania Talog, Cerys a Sara o Noddfa Foelcwan a Heledd o’r Tabernacl. Traddodwyd y myfyrdod gan y Parchg Peter Cutts a bu’r Parchg Desmond Davies yn cynorthwyo gyda’r defosiwn a Lynn Cutts yn cyfeilio. Cafwyd paned o de a lluniaeth ysgafn yn y Festri yn dilyn y gwasanaeth pan oedd yn gyfle i gymdeithasu ac i gael llongyfarch yr ieuenctid. Roedd y gynulleidfa luosog o aelodau a theulu a ffrindiau a ddaeth ynghŷd yn gytun fod hon wedi bod yn oedfa arbennig.

Wynn Vittle; dathlu 60

Wynn VittleTrigain mlynedd nôl, ordeiniwyd Y Parchg. Wynn Vittle a’i sefydlu’n weinidog eglwysi’r Bedyddwyr ym Methania, Talog a Noddfa, Foelcwan, ger Caerfyrddin. I nodi’r achlysur, fe’i gwahoddwyd i bregethu ym Methania yn ei Hoedfa Flynyddol bore Sul, Mehefin 30, 2019. Llywyddwyd gan y gweinidog, y Parchg. Peter Cutts a chyflwynwyd cyfarchion gan y Parchg. Dr Desmond Davies, cyn- weinidog.Vittle1

Cyfeiriwyd at ei weinidogaeth mewn gwahanol feysydd, ond soniwyd yn benodol am ymroad egniol Wynn fel Ysgrifennydd Cenedlaethol Cymorth Cristnogol o 1972 i 1990. Yn 2014 cyhoeddodd ei gyfrol Ehangu Gorwelion, sy’n olrain hanes y Mudiad yn Nghymru hyd 1990 – llyfr a gafodd dderbyniad da gan wneud elw o dros £3,000 tuag at waith Cymorth Cristnogol.

Vittle2

Arwydd brydferth o eiddo Bethania a Noddfa oedd cyflwyno rhodd iddo i nodi’r achlysur. Cyfrifai’r gweinidog presennol hi’n fraint i gyflwyno’r rhodd a’i longyfarch, gyda diolch cynnes am ei wasanaeth cydwybodol, gan ddymuno pob dedwyddwch a bendith i Wynn am flynyddoedd lawer eto.

Gwelir Diaconiaid Bethania a Noddfa yn y llun.

 

Gwibdaith 2019

Ar brynhawn Sadwrn, Mehefin 29ain aeth nifer o aelodau’r gymdeithas  ar y bererindod flynyddol. Cafwyd prynhawn hyfryd yn y Mwmbwls neu yn ymweld â Gerddi Clun gyda’i rhyw 2000 o blanhigion gan gynnwys dros 800 o rhododendrons.  Wedyn daethpwyd yn ôl i gapel Salem Llangennech lle  cafwyd croeso cynnes gan y Gweinidog Y Parchg Eseia Grandis. Bu rhai o swyddogion y capel yn dweud yr hanes fel y bu i’r achos yn Salem ei sefydlu. Cafwyd myfyrdod diddorol a bendithiol  gan Weinidog y Tabernacl, y Parchg Peter Cutts pan fu’n olrhain tarddiad yr enw Salem a’i gysylltiad â’r gair Hebraeg “Shalom”  a’r gair Arabaidd  “Salaam” sef tangnefedd a chafwyd gwahanol engreifftiau o’r ysgrythur  yn dangos tangnefedd Duw i’w bobl.  Ymunodd pawb i ganu emyn gydag Alan Fewster un o ddiaconiaid Salem Llangennech yn cyfeilio ar yr organ. Yn dilyn hyn cafwyd pryd o fwyd hyfryd yn y Bridge Llangennech cyn dychwelyd yn ôl am Gaerfyrddin wedi cael prynhawn pleserus iawn.

Cyfnod y Pasg 2019

Dechreuodd y gweithgareddau wrth i  nifer o’r aelodau  ymweld â Chartrefi preswyl Brynderwen, Erw Hir a Glynest lle mae rhai o aelodau’r capel wedi ymgartrefi erbyn hyn. Cynhaliwyd oedfaon bendithiol o dan ofal y Parchg Peter Cutts.  Braf oedd gweld y deiliaid wrth eu bodd yn ymuno i ganu’r emynau cyfarwydd. Cafwyd darlleniad gan Margaret Walters a chanwyd deuawd gan Julie Thorpe a Mair Evans.  Cafwyd neges ysbrydoledig gan y Parchg Wynn Vittle wrth iddo adrodd hanes noson y Swper Olaf ac fe’n harweiniodd i ddychmygu fel yr oedd Ioan Marc  wedi bod yn dyst i’r hyn a ddigwyddodd yng  ngardd Gethsemane-  ei fam  efallai wedi ei gymell i ddilyn y disgyblion a’u gweld fel rhywun i Ioan Marc  i’w  hefelychu. Pwysleisiodd bwysigrwydd y tyst a dylanwad y Crist Atgyfodedig ar y disgyblion ac ar ei ddisgyblion o hyd yn troi tywyllwch yn oleuni a’r sicrwydd y bydd yn parhau yn ffyddlon hyd ddiwedd y Byd. Rhian James Davies fu’n cyfeilio ym Mrynderwen ac Erw Hir a Margaret Davies yn cyfeilio yng Nglynest. Diolchwyd am y gwasanaeth yng Nglynest gan Arwyn Pierce ac fe’n gwahoddwyd i  gael te gan Jean Evans.

Ar Sul y Blodau cynhaliwyd oedfa yn y Tabernacl o dan arweiniad  Y Parchg Ddr Desmond Davies. “Sul y Meseia” oedd thema’r myfyrdod  a chafwyd pregeth rymus yn dangos sut y bu i Feseia Sul y Blodau drawsnewid y syniad o Feseia- Y Meseia hwn yn addfwyn; yn marchogaeth ar anifail gwaith; gwas a ddaeth i wasanaethu ac nid i lywodraethu; y gwas dioddefus a ddaeth drwy’r dioddef i ennill y dydd ac a ddangosodd fod cariad yn drech na chasineb.  Meredydd Edwards fu’n cyfeilio yn y gwasanaeth.

Cynhaliwyd oedfa gymun nos Iau Cablyd o dan ofal y Parchg Peter Cutts. Cyflwynwyd  gweddi ar ffurf litwrgi  gan y Parchg Wynn Vittle. Yn ei neges bu’r Gweinidog yn sôn fel y bu academydd Lladin yn 1884 ddod o hyd i lythyr a ysgrifennwyd mil a hanner o flynyddoedd yn gynt yn coffau sut oedd pobl yn  Jerwsalem yn coffau wythnos olaf Crist. Aeth ymlaen gan holi beth yn union a ddigwyddodd ar y Sadwrn rhwng Gwener y Groglith a Sul y Pasg. I’r disgyblion roedd yn gyfnod o aros a disgwyl, fel sy’n rhan o batrwm byd natur; marwolaeth, aros a bywyd newydd. Gwelir gras Duw yn gweithio’n raddol. O garu a chael ein caru gan Dduw y daw’r atgyfodiad- yr atgyfodiad a esgorodd ar fôr o gariad.

Cafwyd oedfa bregethu bore Gwener y Groglith gyda’r  Parchg John Talfryn Jones, Rhydaman  yn pregethu.  Cafwyd neges rymus ganddo yn seiliedig ar eiriau’r Apostol Paul at y Corinthaid- “Ninnau yn ffyliaid er mwyn Crist” Cyfeiriodd at y balchder a welwyd yn  Corinth  ar y pryd a’r amarch a ddangoswyd tuag at Paul ac felly yn ei wawd yr ysgrifennodd atynt. Aeth ymlaen i fyfyrio a gofyn nifer o gwestiynau;  i’r byd beth yw’r groes ond ffolineb ond i’r Cristion mae yn dyst o rym cariad. Atgyfodiad y Trydydd dydd  yn ffolineb i’r byd ond neges y bedd gwag a’r atgyfodiad yn dangos grym a gogoniant. Clo perffaith i’w neges bwrpasol oedd geiriau’r emyn,

     Cei dy farnu, cei dy garu,

     Cei dy wawdio lawer gwaith,

     Na ofala ddim am hynny:

     Cred yn Nuw a gwna dy waith.

Roedd yn hyfryd i gael cwmni nifer o gyfeillion o gapeli’r ardal wedi ymuno yn yr oedfa. Heather Williams fu’n cyfeilio i’r emynau ac yn oedfa’r noson gynt.

Gweithred ecwmenaidd hefyd fu’r ddwy daith gerdded ar ôl yr Oedfa Bregethu. Yn gyntaf, gyda nifer o eglwysi a chapeli’r ardal, gorymdaith o dystiolaeth dawel trwy dref Caerfyrddin a ddaeth i ben gyda gwasanaeth dwyieithog awyr agored yn yr ardd ar gornel Heol Ioan o dan ofal y Parchg Peter Cutts. Brynhawn Gwener y Groglith cafwyd ail daith gerdded i fyny i gopa Bryn Myrddin i gynnal gwasanaeth byr o dan ofal nifer o Weinidogion Cymraeg yr ardal. Cafwyd  cyfle i gymdeithasu dros baned o de yng nghanolfan Bryn Myrddin ar ôl cerdded i lawr.

Yn blygeiniol, fore Sul y Pasg cynhaliwyd cwrdd gweddi gyda chyfle i bawb gyfrannu mewn darlleniadau, gweddïau a myfyrdodau. Yn dilyn am 10 o’r gloch cafwyd  oedfa gymun i’r ofalaeth o dan arweiniad y Gweinidog.  Bu aelodau o’r tair Eglwys yn darllen emynau sef Ieuan Phillips, Iris Owen a Heulwen Howells a Lynn Cutts yn cyfeilio. Thema myfyrdod y Gweinidog oedd y gobaith a geir yn y Crist atgyfodedig.  Trafododd yn effeithiol iawn mai pregethu teyrnas Dduw a wnâi Iesu. Datgelwyd ffydd newydd i Pedr yn dilyn yr atgyfodiad ac fel y newidiodd yntau yr agorwyd yr eglwys i bawb yn y byd. Gwae i ni rhag cau allan bywyd atgyfodedig Iesu ac mae’n galw arnom oll i barhau â’i waith. Aeth ymlaen i drafod yr heriau sydd yn ein hwynebu heddiw gyda chynhesu byd eang. Ond nid angau a distryw sydd â’r gair olaf – mae’r Atgyfodiad yn amlwg yn dangos yn glir fod yr Iesu yn sefyll dros fywyd newydd a gobaith. Unwaith eto eleni, teimlwyd ein bod wedi ein cyfoethogi drwy gyfres o oedfaon bendithiol Y Groglith a’r Pasg.

Bedydd Rachael

Rachel Dickson 2Bu achos dathlu yn Foelcwan wrth i un o’r bobl ifanc ddatgan ei ffydd yn yr Arglwydd Iesu yn gyhoeddus. Bedyddiwyd Rachael Dickson trwy drochiad yn ddiweddar. Mae Rachael yn dod i’r cwrdd gyda’i mam-gu yn gyson. Bedyddio islaw’r capel gyda dŵr o’r nant oedd y traddodiad yn Foelcwan ers blynyddoedd, ond erbyn hyn yr arfer yw mynd i un arall o eglwysi’r ofalaeth lle mae bedyddfan dan do. Daeth cynulleidfa ynghyd i’r Tabernacl a phrofwyd gwefr a bendith arbennig. Derbyniwyd Rachael i gyflawn aelodaeth o’r eglwys yn yr Oedfa Gymun yn Foelcwan ar y Sul canlynol sef 3ydd Mehefin.

Y Groglith a’r Pasg

Dechreuodd gweithgareddau’r Pasg yn y Tabernacl, Caerfyrddin wrth i ni ymweld â chartefi preswyl Brynderwen ac Erw Hir yng Nghaerfyrddin a Glyn Nest Castell Newydd Emlyn a chynnal oedfaon yno. Llywyddwyd gan y Parchg Peter Cutts a chafwyd darlleniad gan Margaret Walters a deuawd “Yng Ngroes Crist y Gorfoleddaf” gan Julie Thorpe a Mair Evans. Yn ei neges bu’r Parchg Peter Cutts wrth sôn am y gwahaniaeth oedd rhwng yr Iesu a’r ddau leidr y naill ochr iddo ar y groes  yn pwysleisio mai drwy gariad a maddeuant yr oedd yr Iesu yn gweithredu. Bu hefyd yn trafod y gwahaniaeth mawr yn agwedd y ddau tuag at yr Iesu. Braf oedd gweld y deiliaid yn ymuno i ganu’r emynau cyfarwydd. Yng Nglyn Nest bu’r Brawd Arwyn Pierce yn diolch i’r aelodau am y gwasanaeth.

Bore Sul y blodau, cafwyd oedfa deuluol o dan ofal Heledd James un o ieuenctid y Tabernacl. Hi oedd wedi llunio a threfnu’r gwasanaeth a fu’n sôn am arwyddocâd Sul y blodau; Dydd Iau Cablyd, Dydd Gwener y Groglith a Sul y Pasg. Diolchodd y Parchg Peter Cutts i Heledd am ei brwdfrydedd ac  i’r plant am eu gwaith graenus a chyflwynodd groes palmwydd yr un iddynt.  Tra’r aeth y plant i’r Festri i gael helfa wyau Pasg gyda Lynn Cutts, bu’r Gweinidog yn cyflwyno myfyrdod drwy gyfrwng llun enwog Hans Memling sy’n portreadu golygfeydd o ddyddiau olaf Iesu.  Ymunodd pawb yn y Festri ar ddiwedd yr oedfa am de a choffi a bynsen y Grôg.

Yn  y prynhawn cafwyd oedfa undebol i’r ofalaeth yng Nghapel Noddfa Foelcwan. Geiriau Iesu ar y groes “Maddau iddynt canys ni wyddant pa beth maent yn eu wneud” oedd testun pregeth y Gweinidog. Cafwyd enghreifftiau o’r  her i faddau a phwysleisiodd mai dawn ddwyfol yw’r ddawn i faddau a bod y Groes yn  anghenrheidiol i wneud maddeuant Iesu yn real i ni. Bu’r groes a Chalfaria ynddigwyddiad a newidiodd y berthynas rhwng Duw â dyn.

Ymunodd aelodau capeli Cymraeg y dref yn y Tabernacl ar gyfer oedfa gymun nos Iau Cablyd. Crewyd naws arbennig wrth i’r Parchg Peter Cutts weu ei fyfyrdod o amgylch darlleniadau gan y Parchg Beti Wyn James-darlleniadau ar Swper yr Arglwydd; Pasg yr Arglwydd a golchi traed y disgyblion. Offrymwyd gweddi cyn rhannu’r Cymun gan y Parchg Desmond Davies ac offrymwyd y fendith gan y Parchg Wynn Vittle. Enid Davies oedd yn cyfeilio.

Y Parchg Ddr Densil Morgan oedd y pregethwr gwâdd yn yr Oedfa bregethu bore Gwener y Groglith gyda’r Parchg Peter Cutts yn llywyddu. Cafwyd pregeth rymus yn seiliedig ar y darlleniad am y Gwas Dioddefus o Eseia 53. Yng ngoleuni’r darlleniad traddododd ar y gwas yn cael ei ddyrchafu; ei ddarostwng a thrwy  ei weinidogaeth fod ewyllys yr Arglwydd yn llwyddo.

CaptureWedi’r oedfa roedd cyfle i ymuno ar y daith gerdded dawel o amgylch y dre –digwyddiad sydd yn cael ei drefnu gan Cytûn.  Ac wedyn yn y prynhawn ymunodd nifer ag aelodau eraill o gapeli’r ardal i gario’r Groes i gopa Bryn Myrddin yn Abergwili.  Profiad arbennig oedd cynnal oedfa fer yno ar ben y bryn am dri o’r gloch y prynhawn. Cymerwyd rhan gan y Parchg Peter Cutts, Parchg Wynn Vittle a’r Parchg Tom Defis  a chafwyd myfyrdod byr gan y Parchg Beti Wyn James cyn dychwelyd i Ganolfan Bryn Myrddin am baned a chyfle i gymdeithasu.

Yn blygeiniol, fore Sul y Pasg cynhaliwyd cwrdd gweddi gyda chyfle i bawb gyfrannu mewn darlleniadau, gweddiau a myfyrdodau.

Y Parchg Peter Cutts oedd yng ngofal  oedfa Gymun yr ofalaeth bore Sul y Pasg. Yn ei bregeth cafwyd anogaeth ganddo i wynebu realiti pa mor anodd bynnag yw hynny fel y gwnaeth proffwydi’r Hen Destament annog pobl i wynebu realiti. Mae ffydd yn gorfod ymdopi â’r byd fel y mae. Felly mae’r Efyngylau yn  annog  pawb i gydweithio gyda’i gilydd. Mae’r atgyfodiad yn effeithio ar fywyd cyfan wrth i allu Duw  droi ein hanobaith yn obaith, ein tywyllwch yn oleuni a marwolaeth yn fywyd. Cyhoeddwyd yr emynau gan Wendy Jenkins, Emyr Phillips ac Eirianwen Davies. Cyn rhannu’r Cymun cafwyd deuawd gan Julie Thorpe a Mair Evans gyda Enid Davies yn cyfeilio. Roedd yr oedfa hon yn glo teilwng ar gyfres o wasanaethau a gweithgareddau bendithiol y Pasg hwn yn Y Tabernacl Caerfyrddin ac i Dduw y bo’r diolch.